Annwyl Mrs Williams
Gyda chalon drom ‘rwy’n ‘sgwennu nodyn
i chwi ei fam mewn galar dwys
eich mab yn ddewr wynebodd y gelyn
ond fel llawer brawd mae ‘nawr dan y gwys.
Bu farw yn falch fel pob gwir arwr
‘roedd ef fel ei ffrindiau’n gobeithio cael byw
fe’u collwn i gyd, pob un yn wladgarwr
a rhown hwy’n ddiogel ym nwylo Duw.
Fe’i claddwyd ef yma ym Mhalestina
ond mae’r hyn ‘sgen i ddweud yn swnio’n herciog
mae’r gost am y blanced a roed am ei glinia’
yn golygu swllt, i’w dynnu o’i gyflog.
Drwg iawn gennyf beri i chwi fwy o boen
ond rhaid oedd wrth blanced i’w lapio’n y bedd
a dangos parch at ddiniwed oen
‘ddanfonwyd yn drist i dragwyddol hedd.
Wel, Annwyl Gapten, atebaf yn syth
gan ofyn paham fod y swllt yn ddyledus?
‘Rwy’n unig, gyda’m calon wedi torri am byth
mewn galar hyd angau, ar goll a gofidus.
Ar ol colli fy mab i dragwyddoldeb
Mae cymeryd y swllt yn llai na hael
Duw dystia i’r dirmyg a’r israddoldeb
o wneud ei farw mor ddibris a gwael.
O’r fath greulondeb, wrth roddi’n y gro
cymeryd pris blanced o’i gyflog o.
Kindly translated by Evan Jones